I've just finished writing my speech for the Remploy Crusade Rally which will take place tonight at the Dragon Hotel in Swansea. I've tried to support the campaign at every juncture, and have met with workers, Union Officials and Management to discuss the proposals, and its affect on workers in the South Wales West area. I was especially pleased to hear today that the Bridgend factory will be saved from closure. I am sure that this announcement has much to do with the success of the campaign by the Trade Union Consortium, and the pressure that they have placed on the Government to reassess its plans for the industry.
On another note, I'd like to congratulate Gwenllian Lansdown on becoming Plaid's new Chief Executive. Another young woman to join Plaid's ranks! I hope that she is treated fairly by the media, and the blogosphere for that matter ( to date she has been praised, by Vaughan Roderick of all people. Shock horror!!) I wish her well with the new job. It will be a challenge, but one she will no doubt grasp with enthusiasm. I wonder whether she will be as financially prudent as Dafydd Trystan?!
Tomorrow I am going to Llandudno for Plaid's Conference. I am chairing a fringe meeting on Child Poverty with speakers from the Citizen's Advice Bureau and Children in Wales. I have been familiarising myself with my new role as Plaid's spokesperson on Child Poverty, and preparing for some rigorous questioning of Ministers for the new Assembly term!
..........................................................................................
Rwyf newydd orffen sgwennu fy araith ar gyfer rali Remploy sydd yn digwydd heno yng Nghwesty’r Dragon, Abertawe. Rwyf wedi ceisio cefnogi’r ymgyrch ers y cychwyn cyntaf, ac rwyf wedi cwrdd a chynrychiolwyr Undebau a Rheolwyr Remploy I drafod y strategaeth am ddyfodol Remploy, a’i heffaith ar gweithwyr yng Ngorllewin De Cymru. Roeddwn i’n falch iawn i glywed heddiw bod ffatri Penybont yn mynd i aros ar agor. Rwyf yn sicr bod y datganiad yma wedi cael ei wneud yn sgil y pwysau aruthrol y mae’r Undebau yn rhoi ar y Llywodraeth ac ar Rheolwyr Remploy i ail ystyried eu cynlluniau i’r diwydiant.
Ar nodyn arall yn llwyr, hoffwn longyfarch Gwenllian Lansdown am gael ei phenodi fel Prif Weithredwr Plaid Cymru. Menyw ifanc arall yn ymuno a thim Plaid! Rwy’n gobeithio fydd y wasg yn ei thrin a pharch, yn ogystal a byd y blogwyr( hyd yn hyn, mae’r blogwyr wedi bod yn neis iawn iddi, gan gynnwys Vaughan Roderick. Dyna sioc!) Pob lwc da’r swydd newydd, Gwenllian. Mi fydd yn sialens, ond un y bydd Gwenllian yn mwynhau yn sicr. Tybed a fydd Gwenllian mor dynn gyda’r arian a Dafydd Trystan gynt?!
Fory byddaf yn mynd i Landudno at Gynhadledd y Blaid. Rwyf yn cadeirio cyfarfod ymylol ar Dlodi Plant gyda siaradwyr o Gyngor ar Bopeth, a Phlant yng Nghymru. Rwyf wedi bod yn adolygu fy ngwaith ar y pwnc penodol hwn wedi i mi gael fy mhenodi fel llefarydd grwp y Blaid ar Dlodi Plant, ac yn paratoi cwestiynnau lu i Weinidogion ar y pwnc yn barod at y tymor newydd!

No comments:
Post a Comment