Bethan Jenkins: A fyddai amser ar gael, fel rhan o amser y Llywodraeth, i drafod yr orsaf bŵer biomas ym Mhort Talbot? Wrth gwrs, mae’n bwysig ein bod yn cefnogi pethau o’r fath, ond mae tystiolaeth newydd wedi dod i’r golwg ers i’r penderfyniad gael ei wneud gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, ac mae pryderon ynghylch iechyd pobl ac ynghylch goblygiadau carbon niwtral y system newydd. Felly, a fyddai modd cael trafodaeth ar y pwnc, neu o leiaf ddatganiad gan y Gweinidog?
Carwyn Jones: Cafodd yr orsaf ganiatâd cynllunio beth amser yn ôl. Mae unrhyw bryderon am y ffordd y bydd yr orsaf yn gweithio yn fater i Asiantaeth yr Amgylchedd ac i Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, er mwyn sicrhau bod yr orsaf yn gweithio mewn ffordd ddiogel. Nid yw’n bosibl i’r Cynulliad ailedrych ar, neu ailystyried, y caniatâd cynllunio, ond mae’n hollol deg i Aelodau godi pwyntiau ynglŷn a diogelwch a’r amgylchedd gyda’r Gweinidog sy’n gyfrifol am hynny, sef Jane Davidson.
Bethan Jenkins: Would time be available, as part of Government time, to discuss the biomass power station at Port Talbot? Naturally, it is important that we support projects such as these, but new evidence has come to light since the decision was made by Neath Port Talbot County Borough Council, which raises concerns over public health and the implications of the new system’s carbon-neutral emissions. Therefore, would it be possible to hold a discussion on the subject, or at least have a statement by the Minister?
Carwyn Jones: The station was granted planning consent some time ago. Any concerns over how the station works are a matter for the Environment Agency and the Health and Safety Executive, in order to ensure that the station works safely. It is not possible for the Assembly to revisit or reconsider that planning consent, but it is entirely fair for Members to raise points about safety and the environment with the Minister responsible for such matters, namely Jane Davidson.

No comments:
Post a Comment