Showing posts with label S4C. Show all posts
Showing posts with label S4C. Show all posts

Thursday, 17 May 2007

Texas Radio Band and me!


Newydd gwylio'r sioe cerddoriaeth Bandit ar S4C digidol, a daeth fideo newydd Texas Radio Band arno. Syndod mawr i glywed swn fy fiola ar y trac! Nes i anghofio'n llwyr mod i wedi recordio can efo'r band tua blwyddyn yn ol bellach, mewn stiwdio yng Nghaerdydd.( dyna beth mae ymgyrch etholiad yn gwneud i'ch ymenydd, bobl! Methu cofio un dydd i'r llall, wir.)

Mae cwpwl o'n ffrindiau yn y band, ac oherwydd o'n i arfer bod mewn band fy hun( Gilespi) rwy'n credu odd rhyw fath o syniad da nhw mod i'n gallu ware yn ok! ( Mae Grav yn caru ni, na gyd sy'n bwysig)

Y fideo oedd sengl newydd y band, ac yn amlwg, mae'n rhaid i chi ei brynnu yn awr i glywed alaw swynol fy fiola!....


I've just been watching Bandit ( a Welsh language music show ) on S4C digital, and Texas Radio Band's new video came on. I was shocked to hear the sound of my very own fiola playing on the track! I had totally forgotten that I'd recorded the track last year, I believe at a studio in Cardiff(That's what an election campaign does to one's brain, friends! You can't remember a thing from one day to the next!)
A few of my friends are in the band, and probably because I used to be in a band myself ( Gilespi) I think that they had some faith in the fact that I could play the Viola to an ok ish standard!( Grav loves us so that's all that matters)


Well, the video was of the band's new single, and obviously you must now buy the track to hear the sweet sound of my viola playing....!

Tuesday, 10 April 2007

Heddiw- dydd o brotestio a ffilmio!


Dyma llun o fi gyda'r protestwyr yn Ysbyty Port Talbot a oedd yn streicio yn sgil penderfyniad OCS Limited i lleihau eu horiau gwaith, ac yn sgil penderfyniad y Llywodraeth Toriaid, a nawr Llafur i breifateiddio gwasanaethau allweddol. Mae'r gweithwyr yn bwriadu streicio am 2 dydd arall yn y dyfodol agos er mwyn dwyn perswad ar y cwmni ac ar y Rheolwyr i ail ystyried eu penderfyniad. Mi roedd y streic heddi yn lwyddiant, ac fe cafodd y gweithwyr cryn gefnogaeth.

Yn y pnawn mi oeddwn i'n ffilmio ar gyfer y rhaglen Ffeil i S4C. Rhaglen newyddion i bobl ifanc yw Ffeil, ac mi oedd yn rhaid i mi ateb 8 cwestiwn am nifer o bolisiau gwahanol mewn 10 eiliad yr un. Mi oedd o'n anodd iawn i gynhwyso polisi i 10 eiliad, rhaid dweud. Bydd rhaid i chi gwylio yn yr wythnosau nesaf i weld sut nes i!

Sunday, 25 March 2007

Plaid Conference success


Newydd cyrraedd nol i Rhos ar ol bod yn y Gynhadledd yng Nghaernarfon. Wedi blino'n lan i fod yn onest ar ol cwpwl o ddyddie prysur. O'dd y Gynhadledd yn gret, a phawb yn bositif am yr ymgyrch yn arwain at Fai y 3ydd. Roedd sesiynau panel y dydd yn ffordd dda o rhannu syniadau polisi, a wnes i fwynhau y sesiwn iaith a'r drafodaeth bywiog ar rhaglennu S4/C! Roedd nifer o'r sesiynau ymylol yn ddiddorol ac mi roedd e'n dda i allu cwrdd a'r sector iechyd er mwyn dysgu am yr hyn sydd yn flaenoriaethau polisi iddynt hwy cyn yr etholiad.
Roedd stynt chep Eaglestone o gyflwyno cytundeb i Plaid yn sioe werth ei weld i ddweud y lleiaf, a poster mawr newydd Plaid at yr ymgyrch yn symbol o ddiffyg syniadaeth Eaglestone a'i ffrindiau yn y Blaid Lafur Prydeinig.
Mae ochr cymdeithasol y Gynhadledd wastad yn dda, yn enwedig tro ma 'da sesiwn canu cor Plaid yn y Black Boi yng Nghaernarfon, wedi ei arwain gan yr ymgeisydd llawn cymeriad, Allan Pritchard o Islwyn!!
Nawr rwy nol i'r ymgyrchu ar lawr gwlad ar ol fy 'top up' o gyffro o Gynhadledd y Blaid!


I've just got back to Rhos from Caernarfon. I'm shattered to be honest, after a couple of busy days. The Conference was great, and all members were positive about the imminent Assembly election on May the 3rd. The panel sessions at Conference were a great way of sharing policy ideas, and I enjoyed the somewhat exciting discussion regarding S4/C programmes during my stint on the Welsh language panel. Some of the fringe meetings were good, and a chance to meet health professionals, and learn about the issues that they are promoting in their individual manifesto's was also beneficial.
Eaglestone's cheap stunt of turning up at Conference with the contract was a show worth seeing, that's for sure, and Plaid's new billboard a symbol of Eaglestone and co's lack of ideas and desperation!
The social side of Conference is always good, especially as this time we had a Plaid choir at the Black Boi in Caernarfon led by the enigmatic Islwyn candidate, Allan Pritchard!
It's back to the campaigning now that I've had my top-up of Plaid excitement at Conference!

Tuesday, 9 January 2007

Calon Gaeth vs Caerdydd


Falle dylsen i ddim beirniadu yn rhy gloi, ond pan wnes i setlo lawr i wylio drama newydd S4C 'Calon Gaeth' ar nos Sul cefais fy siomi. Roeddwn i'n aros yn amyneddgar i wylio drama cymraeg newydd gan fod cyn lleied o ddramau o werth wedi bod ar y bocs dros y Nadolig ar unrhyw sianel. Ond, doedd Calon Gaeth ddim yn plesio. Mae'r ddrama, yn ol wefan S4C, wedi ei selio ar nofel Sian James, A Small Country. Mae 4 rhan i'r ddrama ( dyw a'n helpo) sydd yn 'adrodd stori epig( !), ond syml, am deulu a'u cariad, dyletswydd a cholled.' Reit...

Bydd rhai yn beirniadu'r ffaith bod na ormod o saesneg yn y rhaglen, gyda'r seren Eastenders Tom Ellis yn actio ffrind gorau Oxbridge y prif gymeriad. Ond nid yr iaith a ddefnyddir sydd yn achosi'r broblem, ond hytrach y ffaith bod y ddrama yn undonnog, yn araf, ac mae'r actio yn sych a di-deimlad. Os mai amcan y Cynhyrchwyr oedd ceisio efelychu goreuon Jane Austen, mae'n methu'n llwyr. Mae pasiwn yn perthyn i ddeialog a stori gwaith yr awdures hwnnw. Does dim llawer o basiwn i'w weld yn y portread hwn o deulu cefn gwlad Cymru.

Fe fyddaf yn gwylio gweddill y gyfres mae'n siwr. Gobeithio fydd y stori a'r sgript yn datblygu. Un peth sy'n sicr, mi fyddaf yn gwylio'r gyfres newydd o 'Caerdydd' ar S4C nos yfory. Drama sydd yn dilyn hynt a helynt pobl ifanc y ddinas. Mae'r gyfres hon yn hollol wahanol i 'Calon Gaeth'. Tra fod 'Calon Gaeth' yn ddi-symud, mae 'Caerdydd' yn fywiog, y sgriptio'n gyflym a naturiol. Yn wir, mae 'Caerdydd' fel 'This Life' modern, cymreig- yn llawn cyffro, actorion gwych, a digon o basiwn....Mae Ryland Teifi yn 'Caerdydd'- rheswm digon teilwng i newid y sianel i S4C dweda i!
Ewch i www.s4c.co.uk i ddarllen am y rhaglennu