Thursday, 20 March 2008

Mosgito


Braidd yn flinedig ar ol y teithio ddoe i ddweud y lleia, ond wedi cwpwl o gyfarfodydd yn y Cynulliad heddiw( sydd yn le dawel iawn dros y pasg, rhaid dweud) fe wnes i ffilmio ar gyfer y rhaglen i bobl ifanc ar S4C, Mosgito. Cwpwl o oriau difyr yn stiwdios Llandaf yn ymarfer cyfweliadau ar fy ngwaith fel AC, ac yn gwylio'r cyflwynwyr yn rhedeg o gwmpas y lle mewn hetiau difyr( gan fod eitem arall ar hetiau, a'u ffasiwn...) Yn ffodus does dim rhaid i ACau wisgo wigs na hetiau ffurfiol yn y Siambr felly doedd dim rhyw lawer gen i i gyfrannu i'r drafodaeth hynny!

Gobeithio'n fawr y bydd mwy o bobl ifanc yn cysylltu a mi ynglyn a gwleidyddiaeth ac ymgyrchu ar ol gwylio'r sioe heno ma. Mae e dal yn anodd i bobl ifanc sichrau bod y system yn croesawu eu barn yn rhan o'r drafodaeth gwleidyddol, ond gobeithio bydd hwn yn newid gyda dyfodiad y pwyllgor deisebau, a'r pwyllgor ar blant a phobl ifanc......


Pasg Hapus pawb!

.........................................................................

Im quite tired after the travelling yesterday but after a couple of meetings at the Assembly today( which is a very quiet place over easter I noticed) I went over to LLandaff BBC to film for the Welsh language youth show, Mosgito. A few hours of rehersals of interviews on my work as an AM ensued, and I then watched with vague hilarity at the presenters fleet around in random hats- as they were doing another piece for the show on fashion hats and easter hats! Fortunately for me us AMs don't have to wear such formal attire at the Assembly so I had little to contribute to that particular bit!

I hope that more young people will contact me to get involved in politics/ campaigns following the show. Its still quite a challenge for young people to get their voice heard in the system, but I hope with the establishment of the petitions committee and the young people's commitee at the Assembly that this will change.....

No comments: