Fe wnes i wylio Question Time neithiwr am y tro cyntaf ers sbel. Dwi ddim di bod yn ffan o'r rhaglen am y ffordd mae nhw'n trin Cymru a gwleidyddion o Gymru ar y rhaglen. Roeddwn i'n falch o weld Helen Mary yn cynrychioli Plaid, a dwi'n meddwl roedd hi'n hynod effeithiol. Roedd gormod o amser wedi cael ei rhoi at drafod hunangofiannau gwleidyddion, a Cherie Blair yn fy marn i, a phan ceisiwyd trafod y Cynulliad Cenedlaethol roedd Dimbleby yn gloi i rhoi stop i'r drafodaeth. Byddai pobl o ardaloedd eraill Prydain 'ddim yn deall' yn ol fe. Wel, rwy'n ffeindio hynny'n anodd i dderbyn i fod yn onest. Mae'r BBC yn trafod sefyllfa a gweithredoedd gwleidyddol nifer fawr o wledydd heb gor-gymhlethu pethau. Byddai pobl yn gwylio'r sioe o tu allan i Gymru wedi gallu cael darlun o beth sydd yn digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd, a sut, efallai rydym yn neud pethau'n well, neu yn wahanol i San Steffan- mae arholiadau sats ond yn un enghraifft o hynny.
Os nad yw rhaglennu megis Question Time, a newyddion rhwydwaith y BBC yn sylweddoli pwysigrwydd adroddiadau ar wleidyddiaeth Cymru a'r Cynulliad, yna mae'n hen bryd i ni datblygu system ein hun yng Nghymru. Rwyf wedi gwylio newyddion y BBC yn y bore pan mae nhw'n trafod addysg a iechyd yn Lloegr dro ar ol tro. Dyw hwn ddim yn adlewyrchu yr hyn sydd yn digwydd yng Nghymru, ond does dim ymdrech ar rhan y BBC i rhoi y darlun lawn o wleidyddiaeth Prydeinig i'w gwylwyr.
................................................................
I watched Question Time last night for the fist time in a long while. I'm not its number one fan, especially as its attitude to Welsh politics and Welsh politicians is quite remarkable. I was pleased to see Helen Mary Jones represent Plaid effectively and robustly, although I believe that far too much of the programme's time was spent discussing political autobiographies, and the life of Cherie Blair. When someone in the audience ( a lib dem researcher in the Assembly I believe) tried to discuss Welsh politics, he was quickly put to a stop by Dimbleby. People in other parts of the UK 'wouldn't understand' was the argument put at the time. I really find this quite astonishing. The BBC report about the political make up and the political goings on of countries all over the World. Surely the viewers of Question Time would have found it interesting to learn about how we do things differently, and often better, here in Wales compared to Westminster?- the sats exams are just one example of this.
If programmes such as Question Time, and BBC network news can't see the importance of broadcasting Welsh news and politics, then we have to take our message of discontent to them loud and clear. I have watched BBC breakfast news on numerous occasions where they discuss the education and health policies that affect England, yet this has no bearing on me or my life. It is unfortunate that the BBC don't make more of an effort to create news stories that reflect the political reality across the UK.

Friday, 16 May 2008
Question Time lets Wales down...again...
Labels:
BBC,
Cherie Blair,
Dimbleby,
Helen Mary Jones,
Question Time,
Welsh politics
3 comments:
cytuno yn llwyr, braidd dim son am wleidyddiaeth Cymru- a sdim ots gyda ni am bywgraffiad cherie blair
totally agree, almost no mention of welsh politics & we dont care about cherie blair's book.
I agree we should have our version here, we dont have enough political programmes
if the BBC are not interested in covering Welsh politics to the rest of the UK, then as you colleague Adam Price said why not hand over the air time to BBC Wales.
Post a Comment