
Unfortunately, I haven’t been able to listen to Carwyn Jones on Taro’r Post regarding his opinions on a New Welsh Language Act (the sound on my computer is not working!) but from what I understand he is opposing a New Welsh Language Act, and his opposition therefore to implementing such an Act as a Minister whose brief includes the Welsh Language and its development.
It’s vital, therefore, that we assess the actions of the Labour Party in the next few weeks to get a clear, holistic idea of the situation. If the Labour party do not play ball, its anyone’s guess as to what will happen next.
............................................................................................
Carwyn Jones- O blaid gwleidyddiaeth 'consenws' ai peidio?
Yn anffodus, dwi ddim wedi clywed y cyfweliad gyda Carwyn Jones ar Taro'r Post am Ddeddf Iaith Newydd (nid yw'r sain ar fy nghyfrifiadur yn gweithio), ond o'r hyn rwy'n deall, mae Carwyn Jones wedi datgan ei fod yn erbyn y cysyniad o Ddeddf Iaith Newydd, ac felly ei fod yn erbyn gweithredu y fath Ddeddf yn y Cynulliad tra bod ef yn Weinidog sydd a phrif gyfrifoldeb dros yr iaith.
Mae'r newydd yma yn benbleth i mi, yn enwedig o ystyried datganiadau diwedddara'r Blaid Lafur am yr angen i hybu gwleidyddiaeth consensws yng Nghymru er mwyn datblygu'r Cynulliad yn y dyfodol. Dydw i ddim yn deall ei dacteg ( os oes ganddo dacteg o gwbl) dros wneud datganiadau mor bendant yn erbyn Deddf Iaith Newydd. O feddwl bod y Llywodraeth Llafur yn un lleiafrifol mi fasa un yn tybio bod Carwyn Jones am gadw'n dawel am gyfnod o leiaf! Tasen i yn 'sgidiau Carwyn Jones, baswn i'n ceisio darganfod ffordd o gymodi polisi'r Blaid Lafur ar yr Iaith gyda polisi Plaid Cymru, ac hynny er mwyn hwyluso'r broses o lywodraethu. Nid siarad yn erbyn un o brif polisiau Plaid Cymru yw'r ffordd gorau o ddatblygu perthynas gref, mae hynny'n sicr!
Beth sydd yn fwy o benblethdod yw bod Carwyn Jones, (yn ol y delwedd sydd ohono yn y wasg ac yn y byd gwleidyddol) yn un sydd ar adain fwy Cenedlaetholgar y Blaid Lafur. Yn fy marn pitw i, nid yw'n helpu Carwyn Jones i wthio'r agenda gwleidyddol tuag at bleidlais diffyg hyder a'r clymblaid enfys oherwydd mae e bron yn anochel y bydd adain Undebol ei blaid ei hun yn gweithredu ras arweinyddol yn ei erbyn os ydynt yn cael ei gwthio i fod yn wrthblaid yn y Cynulliad. Nid yw hynny'n sefyllfa bleserus iawn i Carwyn a'i debyg.
Yn syml felly, mae'n bwysig bod Carwyn Jones yn apelio i Blaid Cymru er mwyn sefydlogi ei huno fewn ei swydd. Mae ei symudiadau diweddaraf yn erbyn Deddf Iaith yn gwrthdaro gyda'r strategaeth hwn yn llwyr. Mae hyd yn oed gohebwyr fel Martin Shipton a Vaughan Roderick wedi nodi mai un o brif penderfyniadau Rhodri Morgan dros benodi Carwyn ac Edwina Hart i'w safleoedd presenol o fewn y Cabinet oedd i greu sefyllfa anodd i Blaid Cymru o ran disodli'r Llywodraeth, gyda'r Gweinidogion ' Plaid friendly' ar flaen y gad.
Felly beth yw pwysigrwydd hwn i ddyfodol gwleidyddiaeth Cymru? Yn fy marn i, os ydyw agwedd Carwyn Jones a'i cyd weithwyr yn parhau, fe fydd gwleidyddiaeth consensws rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn anodd iawn i'w weithredu yn tymor byr, ac yn sicr yn yr hir dymor. Roedd gen i obeithion am yr allu i gydweithredu a Llafur fel yr ydych yn gwybod, a dyna i chi'r rheswm am i mi bleidleisio yn erbyn dod a thrafodaethau gyda'r Blaid hynny i ben wythnos yn ol.
Mae'n hanfodol, felly i asesu sut y bydd Llafur yn gweithredu yn yr wythnosau nesaf i gael darlun clir ac holistaidd o'r sefyllfa. Os nad yw'r Blaid Lafur am weithio gyda Plaid Cymru, pwy a wyr beth fydd yn digwydd nesaf.


