Showing posts with label Guerilla Welsh Fare. Show all posts
Showing posts with label Guerilla Welsh Fare. Show all posts

Monday, 14 May 2007

Deddf Iaith a'r Ceidwadwyr


Hat tip i Guerilla Welsh Fare am y syniad tu ol i'r blog yma. Yn ei blog, mae'n son am y ffaith nad yw'r Toriaid, a oedd gynt yn weithredol dros yr iaith Gymraeg, sef Lisa Francis a Glyn Davies wedi cael eu ail ethol, ac yn awgrymu na fydd y grwp Toriaid newydd yn rhoi'r iaith ar flaen yr agenda gwleidyddol.

Roedd y gwleidyddion uchod yn fwy na rhannol gyfrifol am apel y Toriaid i Genedlaetholwyr adain de, ac am symud blaenoriaethau'r Blaid i ffwrdd o agenda canol y ffordd, cyffyrddus, i'r tasg o 'Gymreigio'r' Toriaid yng Nghymru. Yn sicr, roedd eu gwaith wedi dwyn ffrwyth i raddau helaeth, yn enwedig o ysytyried eu rol o fewn Cymdeithas yr Iaith- eu cefnogaeth i adolygiad o'r Ddeddf Iaith bresenol, a datblygiad addysg Gymraeg. Ond, y cwestiwn mawr yw- a fydd yr adain yma o fewn y Blaid yn parhau nawr bod Lisa Francis a Glyn Davies ill dau ymhell o goridorau pwer Bae Caerdydd, yntau a fydd agenda'r Blaid yn cael ei domiwnyddu gan Cameron o'r swyddfeydd Toriaid yn Llundain?

Felly mi fydd y misoedd nesaf yn gyfnod ddiddorol iawn o ran deall blaenoriathau polisi y grwp Toriaid newydd. Mi fydd yn gyfnod diddorol i aelodau Cymdeithas yr Iaith hefyd, wrth iddynt baratoi eu gwaith o lobio Aelodau Cynulliad i gyflwyno Deddf Iaith Newydd yn rhan o bwerau newydd y Cynulliad, yn ogystal a strategaeth y grwp pwyso wrth fynd at eu gwaith.

Rhaid peidio anghofio chwaith bod natur y Blaid Lafur wedi newid yn awr hefyd. Os fydd ras arweinyddol o fewn y Blaid Lafur yn y misoedd/ blwyddyn nesaf, byddech yn siwr o weld ymgeiswyr o adain Undebol y Blaid hynny, ac o adain mwy Cenedlaetholgar y Blaid Lafur ( Andrew Davies vs Carwyn Jones, tybed?)
Efallai y bydd y ddadl ieithyddol yn rhan ganolog o'r ras hynny. Pwy a wyr?

Thursday, 12 April 2007

Croeso i Gymru, Tony!


Fel rwyf wedi dweud yn y gorffennol, ac fel mae'r blogwr Guerilla Welsh Fare wedi ategu, mi oedd ymweliad Tony Blair i Gymru yn bell o fod yn arwydd negyddol i'r gwrthbleidiau, yn enwedig i ni ym Mhlaid Cymru. Ar stepen drws, mae ynganu'r enw 'Tony Blair' yn cael ei weld fel rheg i nifer fawr o bobl. Roedd yr ymweliad ddoe ond yn pwysleisio'r amhoblogrwydd hynny, am nad oedd croeso mawr iddo yn y ddinas fawr nac ym Mhort Talbot ychwaith!

Mae Tony Blair wastad wedi cael problem gyda twymo tuag at y Cymry ac at wleidyddiaeth datganoledig Cymru. Yn wahanol i Ogledd Iwerddon lle mae e wedi ceisio chwarae rol blaenllaw mewn siapio dyfodol gwleidyddiaeth datganoledig, mae Cymru wastad wedi bod yn boendod iddo, ac yn fwrn. Dyw e byth yn dod ma hyd nes bod etholiad, neu nes bod angen iddo chwipio Rhodri Morgan a'i ACau Llafur Newydd ym Mae Caerdydd mewn i drefn.

Gobeithio fydd effaith yr ymweliad ddoe yn troi mwy o bobl tuag at Blaid Cymru gan mai ni yw'r unig blaid lle nad yw'n harweinydd yn ymateb i gofynion o Lundain. Rydym yma i wasanaethu o Gymru, ar gyfer pobl sydd yn byw yng Nghymru. Mae Cameron wedi bod 'ma yn pwyso ar agenda'r Ceidwadwyr Cymraeg, sydd ond yn tanlinellu bod eu harweinyddiaeth nhw hefyd yn dod o'r canol yn Llundain.