Fel rwyf wedi dweud yn y gorffennol, ac fel mae'r blogwr Guerilla Welsh Fare wedi ategu, mi oedd ymweliad Tony Blair i Gymru yn bell o fod yn arwydd negyddol i'r gwrthbleidiau, yn enwedig i ni ym Mhlaid Cymru. Ar stepen drws, mae ynganu'r enw 'Tony Blair' yn cael ei weld fel rheg i nifer fawr o bobl. Roedd yr ymweliad ddoe ond yn pwysleisio'r amhoblogrwydd hynny, am nad oedd croeso mawr iddo yn y ddinas fawr nac ym Mhort Talbot ychwaith!
Mae Tony Blair wastad wedi cael problem gyda twymo tuag at y Cymry ac at wleidyddiaeth datganoledig Cymru. Yn wahanol i Ogledd Iwerddon lle mae e wedi ceisio chwarae rol blaenllaw mewn siapio dyfodol gwleidyddiaeth datganoledig, mae Cymru wastad wedi bod yn boendod iddo, ac yn fwrn. Dyw e byth yn dod ma hyd nes bod etholiad, neu nes bod angen iddo chwipio Rhodri Morgan a'i ACau Llafur Newydd ym Mae Caerdydd mewn i drefn.
Gobeithio fydd effaith yr ymweliad ddoe yn troi mwy o bobl tuag at Blaid Cymru gan mai ni yw'r unig blaid lle nad yw'n harweinydd yn ymateb i gofynion o Lundain. Rydym yma i wasanaethu o Gymru, ar gyfer pobl sydd yn byw yng Nghymru. Mae Cameron wedi bod 'ma yn pwyso ar agenda'r Ceidwadwyr Cymraeg, sydd ond yn tanlinellu bod eu harweinyddiaeth nhw hefyd yn dod o'r canol yn Llundain.

1 comment:
Mae hi yn beth rhyfedd i weld bod cael ymweliad gan y prif weinidog yn beth negyddol i'r Blair llafur! Ma’ ymweliad yn dangos nifer o bethau. Allwn ni weld pa mor amhoblogaidd yw Tony Blair. Mae hi hefyd yn dangos for, er gwaethaf protestion Rhodri Morgan i ddweud y gwrthwyneb, ma Blaid llafur yng Nghymru yn dal gorfod ateb i Lundain!
Post a Comment