Hat tip i Guerilla Welsh Fare am y syniad tu ol i'r blog yma. Yn ei blog, mae'n son am y ffaith nad yw'r Toriaid, a oedd gynt yn weithredol dros yr iaith Gymraeg, sef Lisa Francis a Glyn Davies wedi cael eu ail ethol, ac yn awgrymu na fydd y grwp Toriaid newydd yn rhoi'r iaith ar flaen yr agenda gwleidyddol.
Roedd y gwleidyddion uchod yn fwy na rhannol gyfrifol am apel y Toriaid i Genedlaetholwyr adain de, ac am symud blaenoriaethau'r Blaid i ffwrdd o agenda canol y ffordd, cyffyrddus, i'r tasg o 'Gymreigio'r' Toriaid yng Nghymru. Yn sicr, roedd eu gwaith wedi dwyn ffrwyth i raddau helaeth, yn enwedig o ysytyried eu rol o fewn Cymdeithas yr Iaith- eu cefnogaeth i adolygiad o'r Ddeddf Iaith bresenol, a datblygiad addysg Gymraeg. Ond, y cwestiwn mawr yw- a fydd yr adain yma o fewn y Blaid yn parhau nawr bod Lisa Francis a Glyn Davies ill dau ymhell o goridorau pwer Bae Caerdydd, yntau a fydd agenda'r Blaid yn cael ei domiwnyddu gan Cameron o'r swyddfeydd Toriaid yn Llundain?
Felly mi fydd y misoedd nesaf yn gyfnod ddiddorol iawn o ran deall blaenoriathau polisi y grwp Toriaid newydd. Mi fydd yn gyfnod diddorol i aelodau Cymdeithas yr Iaith hefyd, wrth iddynt baratoi eu gwaith o lobio Aelodau Cynulliad i gyflwyno Deddf Iaith Newydd yn rhan o bwerau newydd y Cynulliad, yn ogystal a strategaeth y grwp pwyso wrth fynd at eu gwaith.
Rhaid peidio anghofio chwaith bod natur y Blaid Lafur wedi newid yn awr hefyd. Os fydd ras arweinyddol o fewn y Blaid Lafur yn y misoedd/ blwyddyn nesaf, byddech yn siwr o weld ymgeiswyr o adain Undebol y Blaid hynny, ac o adain mwy Cenedlaetholgar y Blaid Lafur ( Andrew Davies vs Carwyn Jones, tybed?)
Efallai y bydd y ddadl ieithyddol yn rhan ganolog o'r ras hynny. Pwy a wyr?

9 comments:
Anodd dweud beth yn union ddigwyddith - fydd y Toriaid ddim cynddwrg ac oedden nhw ar yr Iaith. Mae'r dirwedd wleidyddol wedi newid - dydi plaid wleidyddol yng Nghymru methu anwybyddu'r Iaith erbyn hyn, mae nhw angen pwysleisio rhyw declyn i bwysleisio eu Cymreictod.
Gyda datganoli, yn wir efallai y fydd e'n rhy anodd i'r Toriaid fynd yn ol i'w hen ffordd o weithredu. Wedi dweud hynny, dwi ddim yn credu bydden nhw byth am wneud hynny yn awr.
Bethan
pob hywl da'r Blog a gyda'r swydd newydd, ond ma rhaid cofio bod nifer sylweddol yng Nghymru yn methu siarad na darllen y Gymraeg.
Felly: blogio yn dwyieithog iw'r unig ateb!
dwi ddim yn gallu ennill un ffordd na'r llall. does gen i ddim yr adnoddau ar hyn o bryd i flogio'n ddwyieithog. rwy wedi gofyn i bobl yn flaenorol i gyfieithu i mi, ond gyda fawr o lwc. bydd rhaid aros sbel nes bod blogs yn gwbl dwyieithog. am nawr rwyf am barhau i flogio drwy'r dwy iaith.
Gobeithio yn wir y bydd y Toriaid yn parhau i fod yn gefnogol i fesur iaith newydd yn ystod y tymor newydd.
O'r hyn rwyf yn deall, mae'r Toriaid yn barod i gefnogi gwneud yr Iaith Gymraeg yn swyddogol a sefydlu Comisiynydd i'r Iaith Gymraeg OND yn llai cefnogol i'r syniad o roi hawliau i bobl Cymru ddefnyddio neu ddysgu'r iaith Gymraeg.
Mae'r 3ydd elfen yma yn holl bwysig i unrhyw ddeddfwriaeth Iaith Newydd, a braf iawn gweld fod Plaid Cymru yn gwerthfawrogi hyn, ac wedi datgan na fyddant yn barod i gydweithio gyda Llafur mewn unrhywffordd onibai eu bod yn barod i gefnogi Mesur Iaith newydd.
Dalier ati gyda'r blogio dwyieithog Bethan. Mae hi yn anodd, dwi'n gwybod. Efallai y ffordd gore o wneud hyn ydy sefydlu 2 flog ochr yn ochr, gyda dolenni cyson rhwng y 2. Un yn Gymraeg a'r llall yn Saesneg.
Ni fyddai angen cyfieithu pob post, dim ond cyfrannu i ba bynnag flog bob hyn ac hyn. Dwi'n siwr fyddi di'n mynd dros yr un meysydd lot o weithiau, felly cei di gyfle i drafod pob pwnc sawl gwaith yn y 2 iaith erbyn diwedd dy gyfnod 1af fel AC! ;-)
Dwi'n disgwyl ymlaen i'th weld yn brwydro dros bobl ifanc Cymru, Cymreictod a thegwch cymdeithasol yn y Cynulliad. Pob Lwc!
wel nawr bod gen i rhyw fath o help, falle sa'n syniad dechre blog cymraeg...methu addo diweddaru unrhyw flog yn ddyddiol felly, ond fe wna i drio fy ngore!
Bethan, diolch am y cyfraniadau Cymraeg. Dwi'n credu bod ateb Hedd yn un posib, ond dwi YN meddwl fel gwleidydd llawn amser (cydwybodol) rhan o dy waith ydi sicrhau dy fod yn cyfathrebu gyda'r cyhoedd yn y ddwy iaith yn gydradd.
Fydd gen ti staff swyddfa yn fuan, ac mae'n warth fod unrhyw aelodau etholedig gyda staff yn enwedig rhai sy'n honni eu bod yn genedlaetholwyr ddim yn cyfathrebu yn y ddwy iaith. Tan bo gennyt staff mae'n llawer anoddach, ond fel Cymraes sy'n fedru'r ddwy iaith yn rhugl - fydd hi ddim yn cymryd llawer i ti sgwennu pwt yn y Gymraeg ar ddiwedd pob blog Saesneg a vice versa.
Gyda llaw, ti dal yn best of a bad bunch ;)
Dewi, ti yn iawn mewn egwyddor ond mae dy sylwadau ychydig yn annheg i Bethan a'i chyd-wleidyddion. Does gan cynrychiolwyr etholedig ddim yr amser eu hunain a adnoddau cyfyngedig, a mae yn anodd gofyn iddynt flaenoriaethu cyfieithu blog dros bamffledi a phapurau newydd pan nad yw'r holl etholaeth yn gallu ei ddarllen.
Mae blogio yng Nghymraeg a Saesneg bob yn ail fel mae Bethan, yn system amherffaith on dylai fod rhywfaint o gymeradwyaeth am geisio. Ni fyddem yn llwyddo sicrhau goroesiad yr Iaith heb dderbyn bod rhaid i ni ddewis y brwydrau cywir.
Ti'n iawn bethan. Bydd y frwydr rhwng Carwyn ac Andrew yn frwydr rhwng Cymry y Blaid Lafur a rhwng Gwrth-gymeigwyr y Blaid Lafur. Clywesi aelod blaenllaw (nad sy'n aelod etholedig gwerth nodi) o Blaid Cymru yn dweud yn ystod yr ymgyrch y byddai Andrew Davies yn Brif Weinidog Cymru yn drychunebus i ddyfodol cyfansoddiadol Cymru fel cenedl ond y byddai Carwyn llawer iachach ei Gymreictod cymaint nes y gallai y Blaid weithio gydag ef - ond ddim gyda Andrew ar unrhyw gyfri.
Rwy'n cytuno.
Post a Comment