Mae'r blog hwn yn adlewyrchu fy marn ( yn syml, felly!) ar ras yr arweinyddiaeth o fewn y Blaid Lafur, sydd wedi cychwyn ers i Tony Blair datgan ei fod yn gadael 10 Stryd Downing ( na, doedd dim deigryn yn fy llygaid, mae arna i ofn!)
Yn ol Brown, mae ef nawr am wrando ar y bobl, am adfer ffydd y bobl mewn gwleidyddiaeth democrataidd, ac am gael gwared o'r 'spin' sydd wedi llygru'r Blaid Lafur. Rhaid dweud, ar ol i mi wylio'r Sunday Edition, rwy'n sinigaidd fyth am Gordon Brown a'r honiadau uchod.
Gofynnwyd i Hilary Benn ar y rhaglen ( sy'n ceisio am safle'r Dirprwy Arweinydd) pam yn gwmws nad oedd Gordon Brown wedi llwyddo i wrando, ac i weithio yn erbyn yr awyrgylch o spin tra roedd e'n gweithio i Tony Blair dros y 10 mlynedd diwethaf? Nid oedd Hilary Benn am ateb y cwestiwn, gan rhoi rhyw ateb di-eglur am y ffaith nad oedd Gordon Brown yn arweinydd ar y pryd, ac felly nid oedd yn medru llywio digwyddiadau na threfniant o fewn y Blaid Lafur.
I mi, mae hwn yn rhesymeg hurt i rhoi am anallu Brown i weithredu yn effeithiol. Roedd Gordon Brown yn Ganghellor, yn chwarae rol blaenllaw o fewn tim Tony Blair, ( boed iddyn nhw fod yn hapus gyda hyn ai peidio!) gan weithio ar ddiwygiadau allweddol megis annibynniaeth Banc Lloegr, pensiynau, canoli'r gwasanaeth cyhoeddus- mae'r rhestr yn mynd yn ei flaen. Ydy e wir yn dderbyniol i Benn bwysleisio nad oedd Brown yn eiddo ar ddigon o bwer i wneud gwahaniaeth clir yn ystod y cyfnod pwysig hwn, o ysytyried pa mor agos oedd o i Tony Blair?
Yn ogystal a hyn felly, rhaid cofio bod Llafur yn BLAID gwleidyddiol (er ei fod yn hawdd anghofio o ystyried natur arweinyddol Llywyddol Tony Blair). Buasai gan Gordon Brown yr un gallu, fel unrhyw aelod arall o'r Blaid, i gyflwyno mesurau gerbron cyfarfodydd, Cynadleddau y Blaid hwnnw i newid strwythurau'r Blaid er gwell. Fe fethodd i wneud hynny.
Felly nawr, maddeuwch i mi am fod yn sinigaidd llwyr, ac am beidio dangos owns o gyffro yn fy nghorff am y ffaith bod Gordon Brown yn debygol o ddod i rym. Yn barod mae ef wedi ail datgan polisiau o greu tai eco, ac wedi defnyddio 'spin' yn hollol glir er mwyn hybu ei delwedd newydd o Gordon 'y dyn cyfeillgar' yn hytrach na'r dyn cadaran gyda'r 'clunking fist'.
I orffen, yr hyn sydd eto yn chwerthynllyd am y Brown newydd yma yw'r ffaith i ASau Llafur megis Paul Flynn dweud yn gyhoeddus bod Gordon Brown yn arweinydd fydd yn tynnu'r Blaid yn ol i gredodau 'Llafur hen'- y blaid egwyddorol gynt. Mae hyn oll yng ngolau'r sefyllfa fod Michael Meacher neu Mc Donnell yn bygwth sefyll yn erbyn Brown fel ymgeiswyr o 'chwith' y Blaid Lafur! ....Esboniwch hynny i mi, plis!
Ar ddiwedd y dydd, mae Gordon Brown wedi bod yno drwy hynt a helynt Llafur Newydd. Does dim byd a fedra newid hynny. Yn weledol felly, efallai bod ganddynt yr angen i ymddangos fel bod Llafur Newydd yn farw o dan Brown, ond o ystyried bygythiad David Cameron i'w pleidleisiau dosbarth canol, rwy'n sicr o ddweud nad oes gan Brown a'i dim yr un rheswm etholiadol dros llwyr ymrhyddhau o gysgod Blair......

3 comments:
Yn anffodus, ni allaf gredu bod unrhyw drafodaeth o Gordon Brown yn ddim ond gwastraff o amser. Mae'n sicr o gael ei ethol fel arweinydd nesaf Llafur, a felly'n Brif Weinidog. Y gytundeb rhwng Blair a Brown oedd i Blair gael arwain ar bolisi tramor ac i Brown gael arwain ar bolisi ym Mhrydain.
Ar y cyfan, fel hyn y mae pethau wedi gweithio - mae Brown wedi bod yn llawer mwy pwerus nac y rhan fwyaf o ganghellorion. Felly fydd dim llawer yn newid, heblaw efallain syniadaeth newydd ar bolisi tramor wedi i Blair adael - polisi presennol yw polisi Brown, felly pam y byddai'n newid cyfeiriad? A nid oes rhaid i Brown gyfiawnhau ei hun i'r cyfryngau ychwaith - dydi o ddim yn dibynu ar eu pleidlais i ennill y swydd, yn y tymor byr.
Felly y peth rhaid i ni ym Mhlaid Cymru wneud yw adeiladu ar maniffesto 07 ar gyfer etholiadau 09, a diffinio ein polisiau yn erby rhai Llafur Newydd. Bydd ceisio curo Gordon Brown fel ail Blair - mae Gordon Brown mor agos i Blair nes bod y strategaeth yno yn siwr o feth.
helo bethan, pryd fyddech yn cael ebost newydd o'r senedd? mae gynnai rhestr o gwestiynau i chi ofyn yn sesiynau newydd y cynulliad ynglyn "older people strategy" y cynulliad a profion ar anifeiliaid yng nghefn gwlad cymru.
Eiddoch yn gywir, Gerallt llwyd
bethan.jenkins@wales.gov.uk
Post a Comment