Wednesday, 16 May 2007

SNP decision while Wales plays the waiting game.


English to follow below


Llongyfarchiadau mawr i'r SNP heddiw am sefydlu Llywodraeth yn yr Alban. Er ei fod yn lywodraeth lleiafrifol, rwy'n gobeithio'n fawr y fedrir yr SNP cyflwyno newidiadau radical i wleidyddiaeth yr Alban. Wrth gwrs, mae hyn yn dibynnu ar ewyllys da cefnogaeth y pleidiau eraill, ond mi fydd yn ddiddorol iawn dilyn hynt a helynt y Senedd yn yr Alban.

Dros y ffin yma yng Nghymru, mae'r trafodaethau dal yn digwydd. Mae'r wasg yn erfyn am stori mae arna i ofn. Mi oedd 3 camera BBC yn ein cyfarfod grwp y bore ma! Roedd darllediad y BBC tamaid bach yn cam arweiniol hefyd, gan honi heddiw bod y Glymblaid Enfys yn edrych yn fwy o bosibiliad. Y ffaith yw nad yw'r glymblaid hwn ar lefel uwch neu llai na'r trafodaethau am yr opsiynau eraill ar hyn o bryd.

Rwy'n edrych ymlaen at gael y penderfyniad, beth bynnag yw hwnnw, gan fod pethau yn ddi-symud braidd nes bod Llywodraeth yn cael ei ffurfio. Fel dywedodd Dafydd Ellis Thomas yr wythnos hwn, dyw'r sefyllfa ddim yn 'creisis', na chwaith yn 'stalemate' fel a dywedodd Nick Speed yn ei darn ar newyddion HTV heno. Mae hwn yn benderfyniad mor bwysig i bob Plaid fel na fedrwn rhuthro mewn i dim heb pwyso a mesur pob opsiwn yn glir, ond byddech yn falch o wybod mod i wedi dod i benderfyniad. Er nad wyf am ei rhannu yma eto wrth gwrs!

Am y tro, fe a i ati i agor pentwr o ohebiaeth rwyf wedi derbyn ers Mai y 3ydd!

.........................................................................................................................................................


A big congratulations to the SNP for announcing today that they will form a Government in Scotland. Even though it shall be a minority Government, I hope that the SNP can succeed in introducing radical changes that will benefit Scotland. Of course this depends somewhat on the good will and support of the opposition parties, but it will be very interesting to watch how the political scene develops in Scotland.

Over the border here in Wales, negotiations are still taking place. I fear that the press are by now desperate for a story. There were 3 BBC cameras at our group meeting today! I thought that their news coverage was a little bit misleading tonight as well, as it suggested that a Rainbow coalition was now much more likely than it was previously. The fact of the matter is that this option still holds the same ground as the other options on the table, and that's how it should be reported.

I am looking forward to the day when a decision will finally be made, whatever the outcome is, as I can foresee that things will be pretty slow moving at the Assembly until a Government is formed. As Dafydd Ellis Thomas said earlier this week, the situation is not a 'crisis' or a 'stalemate' for that matter, as Nick Speed suggested tonight on HTV Wales. This is such an important decision for Plaid that we can't just make quick decisions for the future at any cost. We have to weigh up each option clearly. You will be pleased to know that I have made up my mind, but I won't be airing it here for the time being.

For now, I will return to opening the huge bundle of post that I have had on my desk since May the 3rd!

2 comments:

Cymro said...

Cyn i'r cyfryngau ddechrau ar rhyw sbwriel am ddau Brif Weinidog sydd yn genedlaetholwyr, rhaid cofio mor wahanol yw sefyllfa yr Alban. Yr SNP yw'r blaid fwyaf sydd felly am allu gweithredu ar nifer o'i polisiau - er y bydd yn waith caled. Er mwyn i Ieuan Wyn Jones gael ymuno gyda Alex Salmond, bydd rhaid ffurfio clymblaid gyda phleidiau sydd yn anhebygol o dderbyn gweledigaeth y Blaid.

------------------------------------------

Before the media start on some rubbish about two First Ministers who are nationalists, we must remember how different the situation in Scotland is. The SNP are the biggest party, and will be able to act upon many of their policies - though it will be hard work. For Ieuan Wyn Jones to be able to join Alex Salmon, a coalition must be formed with parties that are unlikely too accept Plaid's vision.

Dewi said...

Dwi'n digwydd meddwl mai clymblaid neu cytundeb efo Llafur byddai'r bet gorau - os ydyn nhw'n fodlon derbyn y peth. Ond yr amod y dylsech ei fynnu am y cytundeb yw swp o bolisiau fysa cefnogwyr Llafur yn ddiolchgar amdanynt - megis trafnidiaeth cyhoeddus am ddim i bawb. Byddai hyn yn cryfhau eich llaw lecsiwn nesa.

Byddai ymuno mewn clymblaid ffurfiol efo'r ceidwadwyr yn sbaddu cefnogaeth i'r blaid ac yn bwysicach y cefnogaeth i genedlaetholdeb Cymreig, byddai hyd yn oed cytundeb llac efo pleidiau mor bonkyrs ar toris a libs yn debyg o llesteirio eich rhaglen i'r fath raddau eich bod yn edrych yn aneffeithiol fel llywodraeth o flaen y bobl.

Ma'r blog yma bellach yn codi cywilydd ar blogiau aelodau etholedig eraill. Diolch Bethan.