Friday, 11 May 2007

ACau Rhanbarthol i'r Blaid Lafur....

Rwyf wedi bwriadu blogio ar y mater o'r Blaid Lafur yn ennill seddi ar y rhestr, ond dyw'r amser ddim wedi caniatau hynny i ddigwydd ers Mai y 3ydd, yn anffodus!

Beth sydd o ddiddordeb i mi nawr bod yr etholiad ar ben yw'r ffaith bod gan y Blaid Lafur 2 sedd ar y rhestr yng Nghanolbarth Cymru- Alun Davies yn un ohonynt. Mi oeddwn i ar y rhaglen Dau o'r Bae gydag o y bore ma, pan ddywedodd ei fod yn erbyn system PR o ethol Aelodau, ac hynny er gwaetha'r ffaith ei fod o wedi elwa o'r system ansefydlog hwn. Dros y blynyddoedd mae'r Blaid Lafur, yn enwedig Peter Hain, wedi tynnu cryn sylw i'r ffaith bod ACau rhanbarthol rhywsut yn israddiol i aelodau etholaethol. Dywediad enwocaf Carl Seargeant AC hyd yn oed yw 'As the directly elected AM for...'

Felly, ble mae hwn yn gadael y Blaid Lafur yn awr? Bydden nhw'n parhau i feirniadu'r system, yntau fydd Alun Davies a'i debyg yn rhoi stop i'r cwynion fel ACau rhanbarthol? Wedi'r cyfan, y Blaid Lafur sydd wedi siapio'r system i geisio siwtio dibenion eu hun h.y mae nhw wedi creu system dau lefel yn bwrpasol er mwyn parhau ag hegemoni'r Blaid Lafur yng Nghymru. Mae hwn yn wir eto wrth iddynt stopio ymgeiswyr rhag sefyll ar y rhestr ac yn lleol cyn etholiad diwethaf y Cynulliad ( a dyna pam nad yw Glyn Davies gyda ni yn y Senedd!)

Yr ateb syml i hwn byddai cyflwyno amcanion Comisiwn Richard o Senedd deddfwriaethol llawn i Gymru, ehangu'r seddi i 80, a chyflwyno system bleidleisio STV, sydd yn cael ei ddefnyddio yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Byddai cyflwyno amcanion o'r fath yn gam ymlaen bositif i Gymru. Dylai unrhyw drafodaeth rhyngddom ni a phleidiau gwleidyddol eraill yn y broses o greu Llywodraeth ym Mae Caerdydd cymryd y ffactorau yma oll mewn i ystyriaeth heb os.

5 comments:

Blamerbell said...

Dwi'n amau fod yr Alban, fel Cymru, yn defnyddio d'Hondt, nid STV.

bethan said...

ydy, yn yr Alban ti'n iawn. Fe wnes i wneud camgymeriad- yr etholiadau Cyngor oedd yn ethol yn ol y system STV yn yr Alban.

Cymro said...

Mi fuaswn i yn cefnogi dy gynnig o 80 sedd ond gyda system yn cyfuno defnyddio STV yn yr etholaethau presennol, a Sainte-Laguë yn y rhanbarthau a fyddai'n cael eu cynrychiol gan 40, yn hytrach nac ugain

Dwi ddim yn meddwl y byddai d'Hondt yn gweithio ar raddfa 80 sedd - mi fyddai'n ffafrio'r Blaid Lafur unwaith eto.

Deleted said...

dyna pam nad yw Glyn Davies gyda ni yn y Senedd

Dim yn hollol wir. Tasai Glyn Davies wedi sefyll yn Sir Maldwyn ac ar y rhestr, efallai ei fod fe wedi dal i golli ei sedd fe.

Gobeithio, bod nghymraeg yn well na swyddog canlyniadau yng Nghasnewydd !

bethan said...

digon teg left field, ond basa fe wedi bod yn llawer mwy tebygol iddo wedi gallu ennill drwy sefyll y dwy ffordd....