
Scwp newyddion heddiw yw'r si bod Canolfan Ogwr yn mynd i gau am nad oes modd ariannu adnewyddu'r Ganolfan, ac am nad oes cwmni i rhedeg y lle. I berson sydd wedi treulio blynyddoedd yn 'Ogwr' ar gyrsiau cerddorfa'r Glam( Cerddorfa Ieunctid Morgannwg), mae hyn yn newyddion trist iawn. Dydw i ddim yn ymwybodol o fanylion y rhesymau dros cau y Ganolfan, ond rwy'n bwriadu ceisio ymgyrchu i gadw'r Ganolfan ar agor. Mae'n siwr bod nifer o Gerddorion byd enwog wedi treulio canran mawr o'i bywydau ar gyrsiau yn Ogwr, a fydd yn gallu helpu'r ymgyrch yma. Mae'n siom o'r radd mwyaf bod cynlluniau i gau'r lle o feddwl ei fod yn chwarae rhan mor bwysig mewn datblygiad nifer fawr o gyrsiau a sectorau o'r gymdeithas.
- Newydd clywed bod Ogwr ddim yn cau! Mae dathliadau ar y gweill felly!
No comments:
Post a Comment