
Falle dylsen i ddim beirniadu yn rhy gloi, ond pan wnes i setlo lawr i wylio drama newydd S4C 'Calon Gaeth' ar nos Sul cefais fy siomi. Roeddwn i'n aros yn amyneddgar i wylio drama cymraeg newydd gan fod cyn lleied o ddramau o werth wedi bod ar y bocs dros y Nadolig ar unrhyw sianel. Ond, doedd Calon Gaeth ddim yn plesio. Mae'r ddrama, yn ol wefan S4C, wedi ei selio ar nofel Sian James, A Small Country. Mae 4 rhan i'r ddrama ( dyw a'n helpo) sydd yn 'adrodd stori epig( !), ond syml, am deulu a'u cariad, dyletswydd a cholled.' Reit...
Bydd rhai yn beirniadu'r ffaith bod na ormod o saesneg yn y rhaglen, gyda'r seren Eastenders Tom Ellis yn actio ffrind gorau Oxbridge y prif gymeriad. Ond nid yr iaith a ddefnyddir sydd yn achosi'r broblem, ond hytrach y ffaith bod y ddrama yn undonnog, yn araf, ac mae'r actio yn sych a di-deimlad. Os mai amcan y Cynhyrchwyr oedd ceisio efelychu goreuon Jane Austen, mae'n methu'n llwyr. Mae pasiwn yn perthyn i ddeialog a stori gwaith yr awdures hwnnw. Does dim llawer o basiwn i'w weld yn y portread hwn o deulu cefn gwlad Cymru.
Fe fyddaf yn gwylio gweddill y gyfres mae'n siwr. Gobeithio fydd y stori a'r sgript yn datblygu. Un peth sy'n sicr, mi fyddaf yn gwylio'r gyfres newydd o 'Caerdydd' ar S4C nos yfory. Drama sydd yn dilyn hynt a helynt pobl ifanc y ddinas. Mae'r gyfres hon yn hollol wahanol i 'Calon Gaeth'. Tra fod 'Calon Gaeth' yn ddi-symud, mae 'Caerdydd' yn fywiog, y sgriptio'n gyflym a naturiol. Yn wir, mae 'Caerdydd' fel 'This Life' modern, cymreig- yn llawn cyffro, actorion gwych, a digon o basiwn....Mae Ryland Teifi yn 'Caerdydd'- rheswm digon teilwng i newid y sianel i S4C dweda i!
Ewch i www.s4c.co.uk i ddarllen am y rhaglennu
No comments:
Post a Comment