
Mae'n ddydd Santes Dwynwen heddiw. Doeddwn i ddim yn gwybod rhyw lawer am Santes Dwynwen tan i mi ddechrau ymchwilio'r we. Mae'r hanes yn amrywio o le i le- rhai gwefannau yn dweud bod Dwynwen wedi cael ei wrthod i fod yn gariad i'r creulon Maelon, gan ei adael yn drist ac yn unig, a gwefannau eraill yn honi mai Dwynwen sydd yn wfftio cariad Maelon. Mae'r stori yn mynd yn ei flaen, ac yn adrodd bod angel yn dod i lawr o'r nef gan droi Maelon mewn i lwmp o ia, ( syniad da am gariadon anffyddlon, efallai?!) ond mae Dwynwen yn mynnu ei bod yn cael ei droi yn ol yn ddyn. Ar ol y miri gyda Maelon mae hi'n troi ei chariad at Duw, ac yn penderfynnu byw bywyd syml ar Ynys Llanddwyn. Daeth hi'n sant ac yna'n nawddsant cariadon.
Os am ddathlu unrhywbeth, rwy'n dueddol o ddathlu Dydd Santes Dwynwen yn lle'r hen San Ffolant. Mae Dydd Santes Dwynwen yn draddodiad cymreig wedi'r cyfan, sydd heb (hyd yn hyn) cael ei ddinistrio gan fyd y busnesau mawr, y calonnau mawr fflyffi coch, y sloganau cawslyd, a'r cardiau hyll. Fel da chi'n gweld, nid y teip rhamantaidd mohona i!
Dydd Santes Dwynwen hapus!
No comments:
Post a Comment