Friday, 8 February 2008

Open Cast buffer zone question to Jane Davidson

Bethan Jenkins: You will, no doubt, be seeking enhanced planning powers under this particular Bill. Are you satisfied that you have sufficient planning powers to protect the communities in my region? I am thinking in particular about Kenfig Hill, in the Bridgend area, which is threatened by opencast operations?

Bethan Jenkins: Byddwch, mae’n siŵr, yn ceisio pwerau cynllunio ehangach o dan y Mesur penodol hwn. A ydych yn fodlon bod digon o bwerau cynllunio gennych i amddiffyn cymunedau yn fy rhanbarth i? Yr wyf yn meddwl yn arbennig am Fynyddcynffig, yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr, sy’n cael ei fygwth gan weithfeydd cloddio glo brig?

Jane Davidson: The area that you have mentioned would be covered by our technical advice note on coal. I am happy to indicate to Members today that, having considered the research commissioned by my officials and the consultation responses received during the 2006 consultation, I have decided to revisit some of the key areas, including the width of the buffer zones and the introduction of compulsory health impact assessments for opencast coal applications. I do not need to remind Members that these are ‘One Wales’ commitments. A written statement will be published at 3 p.m. today, which will invite views on increasing the width of the buffer zone to 500m and on the introduction of health impact assessments. The consultation paper will be issued later this month for a 12-week period. Assembly Members will have an opportunity to discuss this in a Plenary debate on 4 March.

Jane Davidson: Byddai’r ardal yr ydych yn cyfeirio ati yn cael ei chwmpasu gan ein nodyn cyngor technegol ar lo. Yr wyf yn hapus i ddweud wrth yr Aelodau heddiw fy mod, ar ôl ystyried yr ymchwil a gomisiynwyd gan fy swyddogion a’r ymatebion ymgynghori a ddaeth i law yn ystod ymgynghoriad 2006, wedi penderfynu ailedrych ar rai o’r meysydd allweddol, gan gynnwys lled y clustogfeydd a chyflwyno asesiadau gorfodol o effaith ar iechyd ar gyfer ceisiadau am gloddio glo brig. Nid oes angen imi atgoffa’r Aelodau fod y rhain yn ymrwymiadau ‘Cymru’n Un’. Caiff datganiad ysgrifenedig ei gyhoeddi am 3 p.m. heddiw, a fydd yn gwahodd pobl i fynegi eu barn am gynyddu lled y clustogfeydd i 500m ac am gyflwyno asesiadau o’r effaith ar iechyd. Caiff y papur ymgynghori ei gyhoeddi’n ddiweddarach y mis hwn am gyfnod o 12 wythnos. Caiff Aelodau’r Cynulliad gyfle i drafod hyn mewn dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Mawrth.

No comments: