Wednesday, 7 March 2007

Save Morriston Neurosurgery- rally organised for April 28th


Rwyf newydd cyrraedd nol o gyfarfod yn Nhreforys am syniadau Plaid am iechyd ar gyfer Gorllewin De Cymru. Roedd llawer o bobl yno- yn benodol daethant i drafod y posibiliad o gau Ysbyty Fairwood yn y ddinas yn ogystal a chynllun Plaid Llafur yng Nghymru i symud yr adran Niwrolawdriniaeth i oedolion i Gaerdydd. Trafodwyd hefyd materion iechyd meddwl, a'r diffyg adnoddau sydd ar gael i gefnogi pobl sydd yn edrych ar ol cleifion yn wirfoddol.

Mae grwp o bobl yn trefnu rali mawr yn Abertawe yn erbyn symud yr adran Niwrolawdrinaeth i Gaerdydd ar y 28 o Ebrill- reit cyn yr etholiad! Bydd mwy o fanylion am hwn ar fy mlog cyn hir!

I've just got back from Plaid's meeting regarding our regional health manifesto for South Wales West in Morriston. There were many people present- primarily to discuss our opposition to the possible closure of Fairwood Hospital in the city, as well as the Labour Party's plans to move Adult Neurosurgery to Cardiff. Other matters discussed were mental health treatment and the lack of resources for carers.

A group of people are now organising a mass rally in Swansea against moving Neurosurgery to Cardiff on the 28th of April- right before the election! There will be more info on this on my blog shortly!

No comments: