Wednesday, 21 March 2007

Ymgyrch Addysg Gymraeg/ Welsh Education campaign


Dyma datganiad y mae myfyrwyr dros Gymru wedi rhyddhau i'r wasg heddiw ynghylch ddiwrnod Cenedlaethol Addysg Gymraeg ar y 22 o Fawrth. Yn dilyn adroddiad Cyngor Ewrop bod diffyg adnoddau addysg gymraeg o hyd er bod y galw yn cynyddu, mae ymgyrch myfyrwyr sydd yn awyddus i astudio drwy'r gymraeg tra yn y Brifysgol yn bwysicach fyth. Mae'n gadarnhaol i weld bod Bangor, Caerdydd ac Athrofa Caerdydd yn ymuno ag Aberystwyth yn yr ymgyrch yn awr, gan bod e'n dangos undod barn ymysg myfyrwyr, a'r ffaith bod Llywodraeth y Cynulliad yn rhy araf yn ymateb i ofynion y myfyrwyr. Fe wrthodwyd y cynllun o ddatblygu Coleg Ffederal gan y Llywodraeth Llafur, ac felly mae'n siwr y bydd llawer mwy o brotestiadau i ddilyn. Mae dechrau gyda gorchmynion i Brifysgolion o ran cyfleuon addysg gymraeg yn gadarnhaol, ac yn rhoi'r pwylais ar gyfrifoldeb y Prifysgolion led led Cymru i chwarae rhan allweddol mewn hybu addysg gymraeg.

Here is a press release issued from students in Wales today regarding a National Welsh Medium Education Day, set to take place on the 22nd of March. Following the European Council's report that there is still a lack of Welsh Medium education in our education structures despite a growth in demand, those students who wish to study through the medium of Welsh but cannot do so have shown today the strength of their campaign. It's great to see that Bangor, Cardiff and UWIC have joined forces alongside Aberystwyth in this campaign as it shows a united front, and highlights the Labour Government's inability to react sufficiently to the demand for more Welsh Medium Higher Education courses through the medium of Welsh.

This campaign is important as the students are targeting their individual Institutions with a list of issues that affect them. This puts pressure on the Institutions to act, and to react to the students' demands. The Labour Government in the Assembly refused to embrace the concept of a Welsh Federal College recently following a report analysis, therefore I am sure there will be many more protests in future calling for the development of Welsh medium education.


Diwrnod Cenedlaethol Addysg Gymraeg

Ar Ddydd Iau, Mawrth 22ain, bydd myfyrwyr ar draws Cymru yn cynnal Diwrnod Cenedlaethol Addysg Gymraeg. Mae myfyrwyr o Brifysgol Cymru Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Cymru Bangor ac Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd wedi llunio rhestr o gwynion ynghylch eu sefydliadau hwy a'r problemau yn genedlaethol gan nad oes sylw digonol yn cael ei roi i'r diffyg anhygoel hyn o ran y Gymraeg.

Penderfynodd y myfyrwyr uno yn eu galwad oherwydd fod y sefyllfa'n wael iawn ar draws Cymru ac oherwydd teimlant nad yw'r Llywodraeth yn dangos digon o ewyllys i gynllunio Addysg Gymraeg o fewn ein Prifysgolion ar draws Cymru. Wedi adroddiad Arad ar ddyfodol Addysg Gymraeg, dywed y Prifysgolion fod llawer mwy o gydweithio ar fin digwydd ond mae'r myfyrwyr yn pryderi am hyn.

Medd Siôn Owain Edwards (Athrofa Caerdydd):

"Dyw'r strategaeth newydd ddim gosod pwysau ar Brifysgolion i ddarparu Addysg Gymraeg, yn enwedig yng Nghaerdydd a'r Athrofa lle nad oes braidd dim dysgu drwy'r Gymraeg, ond yn eironig dyna lle mae'r mwyafrif o fyfyrwyr Cymraeg."

Medd Menna Machreth (Aberystwyth):

"Rhaid pwysleisio hefyd nad oes cynydd ariannol wedi bod at Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg ers Adroddiad Arad sydd eto yn dangos diffyg ymrwymiad Jane Davidson a'i Llywodraeth tuag at greu strwythur Addysg Gymraeg sy'n gynaliadwy o fewn i'n Prifysgolion."

Yn ystod y dydd, fe fydd nifer o fyfyrwyr yn gofyn i'w darlithwyr am ddarlith trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Ein hawl ni yw cael Addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, ond ar hyn o bryd rydym yn cael ein hamddifadu o rywbeth mor sylfaenol a hynny," meddai Gerallt Roberts (Bangor).

Yn ogystal fe fydd y myfyrwyr yn cynnal amrywiol weithgareddau yn eu gwahanol leoliadau i ddathlu ac hyrwyddo Diwrnod Cenedlaethol Addysg Gymraeg yr ydynt yn ei sefydlu.

Cwynion Myfyrwyr Cymraeg Cymru

· Er bod dros 1300 o fyfyrwyr sy'n gallu siarad Cymraeg yn astudio yn Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd, mae'r wefan yn Saesneg, Corëeg a Tseinieg yn unig. Ymhellach nid oes prosbectws ar gael yn Gymraeg.

· Mae Prifysgol Cymru Aberystwyth yn parhau i ddiddymu modiwlau cyfrwng Cymraeg.

· Yn y strwythur newydd o gydweithio rhwng Prifysgolion i ddatblygu Addysg Gymraeg, nid oes unrhyw orfodaeth ar unrhyw Brifysgol i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

· Nid yw Prifysgol Caerdydd yn barod i ddatgan faint o fyfyrwyr Cymraeg sy'n astudio yn eu Prifysgol oherwydd nid ydynt wedi datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a allent gynnig i'r myfyrwyr hyn, darpariaeth sy'n hawl iddynt.

· Dim ond 25% o fodiwl sy'n gorfod cael ei ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg fel ei bod yn derbyn premiwm ar gyfer modiwl cyfrwng Cymraeg. Hysbysebir myfyrwyr yn gamarweiniol wedyn mai modiwl cyfrwng Cymraeg ydyw, pan mewn gwirionedd dim ond ychydig o diwtorials y bydd myfyrwyr yn ei dderbyn yn yr iaith honno.

· Defnydd amheus o ystadegau er diben ffugio cyraeddiadau Jane Davidson ynghylch faint o fyfyrwyr sy'n astudio'n Gymraeg.

· Fe fydd darlithwyr cyfrwng Cymraeg yn gadael ei swyddi o bryd i'w gilydd ond does dim polisi gan Brifysgolion fel Bangor i sicrhau fod rhywun yn cymryd eu lle i ddysgu'n Gymraeg.

· O ystyried ystadegau am y nifer o blant sy'n derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion (15.2% ffigurau Rhieni Dros Addysg Gymraeg), does dim digon o arian yn cael ei glustnodi gyda chynllunio hir dymor i sicrhau darpariaeth ar gyfer y to sy'n dod drwy'r ysgolion yn y blynyddoedd i ddod. 0.5% o gyllideb Addysg Uwch sy'n cael ei roi i Addysg Gymraeg, ond mae angen buddsoddi'n sylweddol er mwyn sicrhau cynllun hir dymor. Mae sustem ariannu Addysg Uwch yn dueddol i weithio yn erbyn Addysg Gymraeg.

· Mae'r dystiolaeth am fethiant i ddilyn Addysg Gymraeg o'n hysgolion drwyddo i'n Prifysgolion yn fwy amlwg nag erioed. Mae'r diffyg dilyniant yn effeithio ar ddatblygiad naturiol y chwyldro a ddigwyddodd yn ysgolion Cymru ac mae adroddiad diweddar Cyngor Ewrop yn profi fod y Cynulliad wedi colli'r cyfle i weithredu dro ar ôl tro. Cred myfyrwyr fod angen gwneud rhywbeth nawr i sicrhau dyfodol i Addysg cyfrwng Cymraeg.

[DIWEDD]

National Welsh Education Day

On Thursday March 22nd, students across Wales will hold National Welsh Education Day. Students from the University of Wales Aberystwyth, UWIC, University of Wales Bangor and the University of Cardiff have joined together to list all the difficulties and problems facing the Welsh language within Higher Education Institutions because the issue needs attention on a national level.

The students decided to unite because the situation is unsatisfactory across Wales and as a result of the Government's lack of will to seriously plan Welsh Education within our Universities in Wales. Following Arad's report on the ways forward for Welsh Education, the Universities say there will be much more collaboration between Universities, but students are worried about this:

Siôn Owain Edwards (UWIC) said:

"The new strategy doesn't enforce any University to provide Welsh Education especially in places like UWIC and Cardiff University where there is near to nothing in the medium of Welsh, where ironically most Welsh Students choose to continue their studies."
Menna Machreth (Aberystwyth) said:

"It has to be stressed that there hasn't been any increase in investment since the Arad Report which again shows Jane Davidson and her Government's lack of commitment towards creating a structure which will sustain and develop Welsh Education within our Universities."

"It's our right to receive our education through the medium of Welsh, but at the moment this right is denied from us," said Gerallt Roberts (Bangor).

Students will be holding various activities throughout the day in their various locations.

Welsh Medium Students’ Complaints

· Welsh medium modules are often cancelled at the beginning of term, although students have registered for them because of the lack of students. This will always be a problem for Welsh medium modules because Universities look at income per head.

· In the new structure of collaboration between Universities to develop Welsh Education, they are not forced to increase their provision but the whole strategy depends on Universities planning more Welsh Education out of their own will.

· Cardiff University are not prepared to say how many Welsh medium students are registered at their University because they do not have sufficient Welsh medium provision to offer to those students.

· Although there are 1300 students who speak Welsh study at University of Wales Institute Cardiff, their website is only in English, Korean, and Chinese. Further their prospectus is not available in Welsh.

· Welsh Medium lecturers may leave institutions but some Universities like Bangor who depend on those lecturers to provide Welsh Medium modules, do not ensure that there is a replacement to carry on teaching in Welsh.

· Only 25% of a module has to be taught in Welsh for it to be considered as Welsh Medium and as a result receive the Welsh medium premium. It is then advertised as a Welsh medium module when in fact only one or two tutorials are taught in Welsh.

· Dubious use of statistics in order to give a misleading account of reaching targets of the number of students studying through the medium of Welsh.

· Considering the number of children educated in Welsh in schools (15.2% figures from Parents for Welsh Education), there isn't enough money invested towards long term planning of Welsh Education to ensure a provision for the students coming through from the schools in years to come. 0.5% of the Higher Education budget is given towards Welsh Medium teaching, so the Assembly must ivest much more money to ensure sustainable planning. The financing system within Higher Education works against Welsh Education.

· The failure of following Welsh Education through schools and into University is now more evident than ever. The discontinuation is affecting the natural development of the quiet revolution of Welsh Medium Education that has happened in schools across Wales and the European Council report proves that the Assembly have missed the boat time a time again. Students believe that action is needed now to ensure the future of Welsh Medium Education.

No comments: