Bethan Jenkins- I wish to raise the pressing issue of three constituents of mine from Swansea, Venera Aliyeva, and her children, Anna and Murat Memedov, who are being detained in a centre in Bedfordshire. They will be sent back to Azerbaijan, and they are in fear of their life. Could we make any representations to Westminster on this issue, to show that we are in support of retaining them in this country?
Carwyn Jones- Forgive me for not commenting on the specific case that you raise, as I do not know the full details. However, you raise an important point: people who are living in this country, and who face the threat of deportation should have full access to the law and to financial support to enable them to pursue their case. That is the mark of a civilised society. We have always had people moving to our shores from elsewhere. We are—to quote the First Minister—an island of immigrants; it is simply a question of when we arrived here. We sometimes forget that. I agree with the suggestion that, where we have what seems to be a difficult situation, people should have full access to justice so that their cases may be heard.
.............................................................
Bethan Jenkins-
hoffwn godi mater brys yn ymwneud â thri o’m hetholwyr o Abertawe sy’n cael eu cadw mewn canolfan yn Swydd Bedford, sef Venera Aliyeva, a’i phlant, Anna a Murat Memedov. Byddant yn cael eu hanfon yn ôl i Azerbaijan, ac maent yn ofni bod eu bywydau mewn perygl. A fyddai modd inni gyflwyno unrhyw sylwadau ynglŷn â hynny i San Steffan, er mwyn dangos ein bod o blaid eu cadw yn y wlad hon?
Carwyn Jones-
Maddeuwch imi am beidio â gwneud sylwadau ynglŷn â’r achos penodol y cyfeiriwch ato, gan nad wyf yn gwybod y manylion yn llawn. Fodd bynnag, yr ydych yn codi pwynt pwysig: dylai pobl sy’n byw yn y wlad hon, ac sy’n wynebu’r bygythiad o gael eu hanfon o’r wlad gael mynediad llawn at y gyfraith ac at gymorth ariannol i’w galluogi i ddadlau eu hachos. Mae hynny’n arwydd o gymdeithas waraidd. Mae pobl wastad wedi bod yn dod i’n glannau o leoedd eraill. Yr ydym—a dyfynnu’r Prif Weinidog—yn ynys o fewnfudwyr; yr unig wahaniaeth yw pa bryd y cyraeddasom yma. Yr ydym yn anghofio hynny weithiau. Yr wyf yn cytuno â’r awgrym, lle mae gennym sefyllfa sy’n ymddangos yn un anodd, y dylai pobl gael mynediad llawn at gyfiawnder fel bod modd i’w hachosion gael eu clywed.

No comments:
Post a Comment