Monday, 26 November 2007

Question on Eating Disorders to Edwina Hart

Bethan Jenkins: You just mentioned eating disorders, which is an issue that greatly interests me. A few months ago I spoke about Ali Valenzuela from Swansea, who could not get access to services. Another of my constituents, from Porthcawl, had a consultation set up in the Princess of Wales Hospital but it was cancelled. She has had to go the Priory in Bristol. I urge you to look into this urgently to see what we can set up in Wales. We are trying to establish u an all-party group on eating disorders in the Assembly, but urgent action needs to be taken because so many people are going to England for services that should be provided in Wales.


Edwina Hart: I have discussed this with officials and have been trying to look for the necessary funds to be made available to start to provide an adequate service in Wales. Health Commission Wales has authorised quite a lot of treatment for individuals in the Priory in Bristol and elsewhere, but the issue is what happens when they come out of the Priory and what local services are available to them. Assembly Members have raised several cases with me. The response to one, which was to attend an arts class once a week, is not the response that I would expect at a local level. People need support groups and assistance. They need to address the whole issue of how they feel about their body and their life, and we certainly do not have all those services in place across Wales. I will aim, during the course of the next three years, budget permitting, to prioritise these issues.

..............................................

Bethan Jenkins: Yr ydych newydd grybwyll anhwylderau bwyta—mater sydd o ddiddordeb mawr imi. Ychydig fisoedd yn ôl soniais am Ali Valenzuela o Abertawe, na allai gael mynediad at wasanaethau. Trefnwyd ymgynghoriad ar gyfer un arall o’m hetholwyr o Borthcawl yn Ysbyty Tywysoges Cymru, ond diddymwyd yr ymgynghoriad hwnnw. Mae wedi gorfod mynd i’r Priory ym Mryste. Fe’ch anogaf i edrych ar hyn ar fyrder i weld beth y gallwn ei sefydlu yng Nghymru. Yr ydym yn ceisio sefydlu grŵp hollbleidiol yn y Cynulliad ar anhwylderau bwyta, ond mae angen cymryd camau brys oherwydd bod cynifer o bobl yn mynd i Loegr er mwyn cael gwasanaethau y dylid eu darparu yng Nghymru.


Edwina Hart: Yr wyf wedi trafod hyn gyda swyddogion ac wedi bod yn ceisio chwilio am y cyllid angenrheidiol er mwyn gallu darparu gwasanaeth digonol yng Nghymru. Mae Comisiwn Iechyd Cymru wedi awdurdodi cryn dipyn o driniaethau i unigolion yn y Priory ym Mryste ac mewn lleoedd eraill, ond yr hyn sy’n digwydd pan ddeuant o’r Priory a pha wasanaethau lleol sydd ar gael iddynt yw’r broblem. Mae Aelodau’r Cynulliad wedi codi sawl achos â mi. Nid yw’r ateb i un, sef mynd i ddosbarth celf unwaith yr wythnos, yn ateb y byddwn yn ei ddisgwyl ar lefel leol. Mae angen grwpiau cefnogi a chymorth ar bobl. Mae angen iddynt fynd i’r afael â’r modd y maent yn teimlo ynghylch eu corff a’u bywyd yn gyfan gwbl, ac yn bendant, nid yw’r holl wasanaethau hynny ar waith gennym ym mhob cwr o Gymru. Os bydd y gyllideb yn caniatáu hynny, byddaf yn anelu at roi blaenoriaeth i’r materion hyn yn ystod y tair blynedd nesaf.

No comments: