Tuesday, 6 November 2007

Renaming Prince William Cup to Ray Gravell/ Ail enwi cwpan Tywysog William i Ray Gravell

Today in the Senedd I raised the issue of renaming the Prince William Cup to the Ray Gravell Cup to show our support to a great Welshman- to honour his dedication to rugby, and to Wales. Carwyn Jones was answering the session's question time as Business Minister, and recommended that individual AM's would support the campaign.

I will raise this again with the First Minister and Ieuan Wyn Jones as this will help increase the profile of the campaign with the WRU. Considering that thousands have now signed the petition and have joined the Facebook online group, I see it as only right that AM's support this campaign. Helen Mary Jones is tabling a statement of opinion for all AM's to sign in support, therefore if you are supportive of the campaign, you should email your local AM.

........................................................................................................

Heddiw yn y Senedd fe wnes i godi'r mater o gefnogi'r ymgyrch i ail enwi cwpan Tywysog William i Gwpan Ray Gravell, ac hynny er mwyn dangos cefnogaeth i Genedlaetholwr o fri, ac i'w gofio am fod yn chwaraewr rygbi syfrdanol. Carwyn Jones oedd yn ateb y cwestiwn fel y Gweinidog Busnes, ac fe ddywedodd y byddai ACau unigol yn cefnogi'r ymgyrch. Byddaf yn codi'r mater eto gyda'r Prif Weinidog a Ieuan Wyn Jones, gan y byddai derbyn eu cefnogaeth yn siwr o rhoi mwy o bwysau gwleidyddol ar Undeb Rygbi Cymru. Mae Helen Mary Jones yn ysgrifennu datganiad barn ar y mater hwn, felly os ydych yn ei gefnogi, rwy'n argymell eich bod yn ebostio/ cysylltu gyda'ch AC lleol.

5 comments:

Anonymous said...

Hear, hear!

Anonymous said...

Totally agree with you in this regard Bethan- more appropriate to name it after a Wales and Lions legend than a hereditary prince who is somehow patron of the WRU but misses games to go and see England play instead!

Bonheddwr said...

Beth yw'r diweddaraf Bethan? Beth yw'r sefyllfa gyda 'datganiad barn' HMJ? Sawl AC sydd wedi ei lofnodi? Oes modd cyhoeddi'r wybodaeth ar dy wefan? Beth mwy allwn ni wneud i hyrwyddo'r ymgyrch?

Anonymous said...

What happened? There's been no update!

Anonymous said...

Diolch am godi hyn yn y Senedd, Bethan. Mae'r gêm ymlaen rwan ar y teledu. Dyna nhw'n dangos y tywysog o Sais yn wên i gyd cyn y gêm a chyn dechrau'r ail hanner. Mae hyn yn gywilydd o beth. Ble mae ein gwleidyddion mwyaf adnabyddus yn yr helynt (gyda phob parch i chi!)? Oes gennych ragor o wybodaeth am y sefyllfa? Pwy sy'n gefnogol i Gwpan Ray Gravell? Mae'r dlws wedi ei henwi am rwan, ond does dim rhaid iddi aros felly. Daliwch ati, Bethan, ac mi fydd gennych gefnogaeth o bob rhan o Gymru.