Thursday, 5 July 2007

Helynt Thomas Cook yn parhau/ Thomas Cook saga continues.....

Rwyf newydd dderbyn llythyr drwy’r post fel Aelod Cynulliad gan y cwmni Thomas Cook yn tanlinellu’r hynt a’r helynt diweddara am eu penderfyniad I wahardd staff rhag siarad Cymraeg yn y gweithle. Mae Thomas Cook yn dweud ei bod yn cael traddodiad o hybu diwylliant o fewn Cymru yn ogystal a deall pwysigrwydd gwahanol ieithoedd byd eang, a ffyrdd o fyw.

Mae’r llythyr yn mynd yn ei flaen trwy datgan nad oedd y cwmni yn bwriadu banio’r defnydd o Gymraeg, a'i fod yn derbyn mewnbwn positif gan gwsmeriaid sydd yn defnyddio’r gymraeg yn eu siopau yng Nghymru i bwcio gwyliau. Mae’r cwmni yn esbonio bod aelodau staff yn cael caniatad clir I siarad cymraeg ymysg ei gilydd, ond os ydynt yn trafod materion gwaith, a phobl yn rhan o’r drafodaeth nad sy’n deall Cymraeg, yna yr iaith o ddewis yw saesneg. Mae’r cwmni am gwrdd a Carwyn Jones AC I drafod y mater yn bellach, yn ogystal a Bwrdd yr Iaith.

Mae’r cwmni yn siomedig am y gymhlethdod ynglych y mater yma, ac yn balch o’I gwasanaethau yng Nghymru….

Ond derbyniwyd y llythyr yn uniaith saesneg. Sa chi’n meddwl basa’r cwmni yn gallu neud bach o ymdrech yn sgil ei broblemau cyfathrebu diweddar ynghlych y mater yma! Mae’r ffordd mae nhw’n ymateb yn dangos yr angen gynhenid am ddeddf iaith- am ddeddf sydd yn cwmpasu cwmniau mawr o’r fath, gan fod yr agwedd tuag at yr iaith I’w weld yn arwynebol iawn I ddweud y lleia.


.................................................................................


I’ve just received a letter through the post from Thomas Cook as an Assembly Member, outlining their side of the story as a result of the trials and tribulations of the recent story that the company has banned staff from speaking Welsh to each other. Thomas Cook state that they have a clear tradition of promoting cultural diversity in Wales, and that they understand the importance of embracing different cultures, languages and lifestyles.

The letter goes on to say that the company never intended to ban the use of Welsh, and that it receives positive feedback from customers who have booked holidays through the medium of Welsh. They state that staff can speak to each other in Welsh, but if work matters are on the agenda, and that if they are being discussed with ‘colleagues who speak English and Welsh and those who only speak English the preferred language should be English.’

The company are meeting Carwyn Jones AM and the Welsh Language Board to discuss this further, regret confusion over this particular matter, and are proud of their operations in Wales…..



But I received the letter in English only. You’d think that a company who has suffered so severely on a PR level due to recent events would raise their game! The way that they have reacted shows that we definitely need a New Welsh Language Act that incorporates big business, as their attitude towards the language seems to be somewhat superficial.

No comments: