Rwy'n edrych ymlaen at ddiwedd y penwythnos hwn pan fydd penderfyniad clir wedi ei wneud ar ddyfodol Llywodraeth Cymru. Rwy'n hapus iawn gyda'r ddogfen Cymru'n Un- y siawns i weithredu polisiau Plaid Cymru ar lefel Cenedlaethol a'r siawns i ymgyrchu ar refferendwm ar Senedd i Gymru.
Mae'n ddiddorol iawn gweld sut mae'r Blaid Lafur yn dadlau'n fewnol am hwn, gyda pobl fel Irene James yn dadlau nad oes yr un egwyddor yn debyg rhwng Plaid a Llafur. Mae nhw'n barod i gwyno, ond nid oes ateb ganddynt am yr hyn hoffen nhw gweld yn digwydd yma yng Nghymru. Nid yw'r ddadl o' r Blaid Lafur yn llywodraethu fel lleiafrif yn dal dwr oherwydd nid yw'n sefydlog. Mae'n rhoi'r grym yn llaw y gwrthbleidiau, sydd yn medru defnyddio'r 'enfys' fel bygythiad parhaol. Hyd y gwela i mae angen i'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru ceisio gweithio ar y cyd i hybu Llywodraeth consensws i'r dyfodol.
Ar ddiwedd y dydd, mae'r system etholiadol yn bodoli fel ag y mae, ac ni fydd gobaith o mwyafrif llwyr gyda setliad o'r fath. Os nad yw'r Blaid Lafur yn derbyn y ddogfen Cymru'n Un heddiw, yna mae'n rhaid i ni oll ail ystyried yr opsiynau. Y ddadl iddyn nhw yw naillau dewis gweithio gyda Plaid blaengar fel Plaid Cymru, neu i ganiatau'r Toriaid i ddod yn rhan o lywodraeth yng Nghymru. Dyna'r realiti pur.
Mae'r ffaith bod Beti Williams a'i debyg,( yn honedig) wedi cymharu Plaid i'r Natsiaid ond yn dangos y rhwygiadau rhwng y Blaid Lafur, a'r gwahaniaeth barn o fewn y Blaid. Tra fod nifer fawr o'r Blaid Lafur am gofleidio gwleidyddiaeth datganoledig, mae eraill ( Undebwyr, ac ASau ar y cyfryw) yn erbyn hyn am, hyd y gwela i, rhesymau unigol, hunanol. Rwy'n hyderus y bydd Plaid Cymru yn rhan o lywodraeth erbyn dechrau’r wythnos, ac yn medru ar y cyfle i lywio agenda polisi'r Cynulliad, ac i ddangos ein bod yn Blaid Llywodraethu- nid dim ond yn Blaid gwleidyddiaeth pwyso.
Ar stepen drws heddiw yn Abertawe, fe ddywedodd nifer o bobl eu bont yn hapus am y ffaith bod Plaid a Llafur yn gweithio gyda'i gilydd. Mae'n rhaid i ni edrych y tu allan i ffenestri cul y Cynulliad -canolbwyntio ar sut medrwn weithredu'r polisiau sydd yn y ddogfen Cymru'n Un, ac asesu sut y bydd yn effeithio ar Gymru fel Cenedl.
..........................................................
I’m looking forward to the end of this week when a decision will be made on the future of Welsh politics. I’m excited about the implementation of the One Wales document- a chance for us to implement Plaid’s key policy proposals in Government, and the opportunity to campaign on a referendum for a Parliament for Wales.
It’s been interesting to say the least to see people such as Irene James argue that there are ideological differences between Plaid and Labour, so much so that she cannot envisage working with us. They are ready to criticise the deal, but I don’t see that they are offering a viable alternative. The argument about Labour remaining as a minority administration does not hold, as this is totally unsustainable. The opposition parties can use the ‘rainbow’ as a threat at every given opportunity. As far as I can see, Plaid and Labour need to work together progressively to create a consensus. The electoral system is as such that a clear majority for any party is not a norm, and therefore we have to seek to work with others.
If the Labour Party reject the One Wales document, then of course we will have to reconsider our options. The argument for them is to either work with Plaid or be in opposition, and let the Tories and a right wing agenda,be part of a Government in Wales. Fact.
The way in which allegedly Beti Williams MP and others have branded Plaid as being similair to Nazis shows a clear rift in the Labour Party between those who are forward- looking and pro devolutionist, to the Unionist, Plaid bashers who effectively put their own selfish interests first.
I am confident that Plaid Cymru will be part of the Government at the National Assembly by the beginning of next week, and that we will be able to play a key role in shaping the policy agenda of the Assembly. We can show that we are a party that is ready to govern, and that we are not only intent on implementing pressure group tactics.
On the doorsteps of Swansea earlier today, many people told us that they are optimistic about Plaid working with Labour. We have to peek outside the glass windows of the Assembly, and look at how we can actively implement the policies in the One Wales document, and how this will benefit Wales as a Nation.

1 comment:
Bethan,
There are many of us on the left of Labour who have very similar ideology to the Left of Plaid. It is our two wings of our respective parties who must build the bridges. In terms of activity and the intellectual debate our wing is more dominant in Labour than many realise. We stop short of total separation but want a Welsh Parliament as much as you do and will fight for it when the time comes.
We are really looking forward to working with you.
Post a Comment